|
Y Menywod |
![]() |
Fel rheol, mae'r menywod yn Senegal yn osgeiddig iawn.
Mae tuedd iddynt fod yn dal iawn ac yn denau. Byddant yn gwisgo dillad
lliwgar iawn a'r rheiny, fel arfer, yn wisgoedd hir a llac, a math o dwrban
am eu pennau.
Mae bywyd y menywod yn
y pentrefi gwledig yn galed iawn. Mewn diwrnod nodweddiadol, byddant yn
codi yn y bore bach - cyn i'w gwŷr
godi. Byddant yn cario'u babanod a'u plant ifanc ar eu cefnau ble bynnag
y byddant yn mynd.
|
![]() |
| Yn ôl |
|