|
|
Pobl yn Senegal, Gorllewin Affrica, sy'n cael help gan Gymorth Cristnogol |
| Elusen Gristnogol yw Cymorth Cristnogol
sy'n helpu i wella ansawdd bywyd rhai o'r bobl dlotaf y byd. Cristnogion
yng ngwledydd Prydain sy'n rhedeg y mudiad hwn. Mae Cymorth Cristnogol
yn dilyn geiriau
Iesu. Dywedodd Iesu mai'r gorchymyn mwyaf yw "caru Duw a charu dy gymydog
fel ti dy hun". Wrth 'gymydog' roedd Iesu'n golygu pawb. Dysgodd ef y dylem
ni helpu unrhyw un sydd mewn angen - waeth pwy ydyn nhw, ble maen nhw'n
byw ac a ydym ni'n eu nabod ai peidio.
Mae Cymorth Cristnogol
yn helpu pobl mewn angen. Nid Cristnogion yn unig sy'n cael help - mae
Cymorth Cristnogol yn helpu pobl mewn angen
waeth beth yw eu crefydd, neu hyd yn oed, os nad oes ganddyn nhw grefydd.
Does dim ots ym mha wlad maen nhw'n byw, beth yw lliw eu croen, pa iaith
maen nhw'n ei siarad ac ai dynion, menywod neu blant ydyn nhw.
|
| Yn ôl |
|