|
|
![]() |
|
Bydd Cymorth Cristnogol yn gweithio gyda'r bobl yn y pentrefi. Y pentrefwyr eu hunain sy'n gwybod yr hyn y mae ei angen arnynt i wella'u bywydau. Byddant yn dod ynghyd ac yn gwneud cynlluniau am ffyrdd ymarferol i wella'u bywydau. Weithiau, bydd angen arian arnynt i weithredu eu cynlluniau. Os felly, byddant yn cysylltu â Chymorth Cristnogol ac yn esbonio'r hyn y mae arnynt eisiau ei wneud a faint o arian y bydd arnynt ei angen. Yna, bydd Cymorth Cristnogol yn pwyso a mesur y cynlluniau ac yn ystyried a oes ganddynt yr arian i'w roi. Os rhoddant yr arian, mater i'r bobl leol yw gweithredu'r cynlluniau. Dyna'r ffordd y mae Cymorth Cristnogol yn gweithio. Y
bobl leol sy'n penderfynu yr hyn y mae arnynt ei angen, a nhw hefyd sy'n
gwneud y gwaith. Bydd Cymorth Cristnogol yn rhoi'r arian ac yna'n gweld
a yw wedi'i ddefnyddio'n ddoeth. Sylwch, er bod y symiau o arian y bydd
y bobl yn gofyn amdanynt yn llawer iddyn nhw am eu bod mor dlawd, yn aml
nid yw'n llawer o arian i ni.
|
| Yn ôl |
|