5 Rakhi (breichled)

Bob mis Awst mae Hindwiaid yn dathlu gwyl Raksha Bandan. Mae'r wyl hon yn atgoffa brodyr a chwiorydd am eu cyfrifoldebau tuag at eu gilydd. Mae menywod a merched Hindwaidd yn rhoi rakhi i’w brodyr, sef math o freichled a wnaed ag edau liwgar. Mae'r chwaer yn clymu'r rakhi am arddwrn ei brawd i’w ddiogelu rhag drygioni. Wedyn, mae'n ddyletswydd ar y brawd i amddiffyn ei chwaer. Mae’r rakhi yn symbol o’r rhwymau sydd rhwng brodyr a chwiorydd. Mae dyluniadau amrywiol i'w cael ar y rakhi.

Yn ôl

Cynnwys
Nesaf